About Project 13

Shwmae, fy enw yw Manon

Ac fe ddechreuais Brosiect 13 yn dilyn fy mhrofiad fy hun gyda cholled. Sylweddolais nad oedd y gwasanaethau oedd ar gael i bobl ifanc mewn galar yn union beth oedd ei angen ar gyfer pobl ifanc. Darganfyddais fod llawer o bobl ifanc yn ei chael yn anodd agor eu calonnau yn bersonol, ond fod gallu gwneud hynny ar-lein yn naturiol i lawer ohonynt. Rydyn ni’n byw mewn oes ddigidol ac mae’n hen bryd ein bod fel pobl ifanc yn cael y cyfle i rannu ein profiadau personol ar-lein heb gael ein barnu neu boeni beth allai pobl eraill ei feddwl.

Manon

Cofio fy nhad

Ray Gravell

Fe’m ganed ar Orffennaf y 6ed 1995 i ddau riant cariadus iawn, Ray a Mari. Fi oedd eu plentyn cyntaf, a thair blynedd yn ddiweddarach fe’m dilynwyd gan fy chwaer fach, Gwenan.

Roedd y teulu’n bwysig iawn i Dad ac yn y bôn roedd yn dal yn blentyn mawr. Pryd bynnag y deuai cyfle byddem yn poeni ein gilydd neu’n chwerthin am rywbeth. Roedd yn dad cwbl ‘normal’. Roeddem wastad yn hapus ac roeddwn yn ei edmygu’n fawr, gallech ddweud hyd yn oed fy mod yn eilunaddoli fy nhad.

Yn 2007 cawsom flwyddyn galed fel teulu. Ar ddechrau’r flwyddyn cafodd dad haint yn ei fys bawd. Cafodd wybod bod ganddo glefyd siwgr math 2 rai blynyddoedd ynghynt, ac roedd gofalu am ei draed yn flaenoriaeth fawr. Yn anffodus, doedd bys bawd dad ddim yn gwella. Cafodd ei ddanfon i’r ysbyty ac fe dorrwyd y bys bawd drwg i ffwrdd. Pan ddaeth y llawfeddyg i’w weld, nid oedd yn hapus ac esboniodd fod yr haint wedi lledu. Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, roedd Dad yn ôl yn y theatr yn colli gwaelod ei goes. Fel y ferch hynaf, roedd gweld fy arwr mor dost yn ddiflas iawn. Rwy’n cofio ffonio fy ffrind gorau i ddweud wrthi, a dechrau llefain a dweud, “gallai farw” ar y ffôn. Realiti nad oeddwn wedi paratoi fy hun ar ei gyfer o gwbl.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, Hydref 31ain a bod yn fanwl, bu farw Dad yn dilyn trawiad sydyn ar y galon yn ystod gwyliau teuluol yn Sbaen.

Roedd Dadi yn fodel rôl gwych ac yn berson arbennig. Mae llawer o bobl yn dweud fod ganddynt y rhieni gorau ond cafodd fy chwaer a minnau ein bendithio i gael y rhieni sydd gennym.
Bydd cofio Dadi wastad yn chwerw-felys. Ni ddylem fod wedi’i golli mor gynnar ag y gwnaethom, ond roeddem mor ffodus i gael rhannu’r amser a gawsom gydag e.

Aims

Rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain mewn ffordd sy’n gyfforddus iddyn nhw. Mae’n gyfle hefyd i bobl ifanc ddarllen am brofiadau pobl ifanc eraill, a dangos gobeithio nad ydych ar eich pen eich hun yn hyn