Mae colli rhywun agos yn ifanc yn anodd, drwy profiad ein hun fe greuwyd Prosiect 13, cymuned ar-lein sy’n medru helpu bobl ifanc i ddelio gyda galar a cholled.
Mae uniaethu gydag unigolion a’i straeon medru fod yn gymorth ag yn gysur i brofi dydych chi ddim ar eich hun mewn adeg anodd iawn. Mae Prosiect 13 yn galluogi bobl ifanc i rhannu eu storiau a’i ffyrdd o ddelio gyda cholled gyda eraill.
Cael gwybod mwyRoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain mewn ffordd fwy addas. Yn fy mhrofiad i mae llawer gormod o sefydliadau yn siarad i lawr at bobl ifanc fel pe nad ydyn ni’n deall beth sy’n digwydd. Rydyn ni yn deall ac mae pawb yn ymateb yn wahanol. Mae Prosiect 13 yn rhoi cyfle ichi esbonio yn eich geiriau eich hun sut hoffech fynegi eich teimladau, ac mae’n rhoi cyfle ichi ddarllen am a darganfod pobl eraill sy’n teimlo fel yr ydych chi.
Cael gwybod mwyBydd cofio Dadi wastad yn chwerw-felys. Ni ddylem fod wedi’i golli mor gynnar ag y gwnaethom, ond roeddem mor ffodus i gael rhannu’r amser a gawsom gydag e.Manon Gravell – Project 13 Founder
Ni fyddai’r Prosiect yma oni bai am eich cefnogaeth arbennig chi. Os ydych yn teimlo’n hael gallwch wneud cyfraniad trwy wasgu yma.
Eich cefnogaeth